Rydych yma : Hafan > Ynglŷn â'r Cynllun

Ynglŷn â’r Cynllun


Mae Cynllun Masnach Deg Ysgolion Gogledd Ceredigion yn brosiect peilot a gynllunwyd am i grŵp o ysgolion cynradd Cymreig lleol weithio gyda’i gilydd, trwy’r wefan un-pwrpas hon, i ennill statws Masnach Deg.

Y safle we

Agwedd bwysicaf y wefan yw’r ardal honno wedi’i gochel gan gyfrinair sy’n caniatáu i bob ysgol i ddilyn hynt ei hymdrech ar ei gwefan ei hunan.

Mae’r gystadleuaeth iach a’r cyfeillgarwch a greïr pan fydd grŵp o ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd tuag at fwriad a rennir yn cynnig cymhelliad cryf i ddisgyblion ac athrawon fel ei gilydd.

Mae cyfathrebu rhwng cyfranogwyr trwy’r hysbysfwrdd gwarchodedig hefyd yn caniatáu i ysgolion rannu syniadau da, datrys problemau lleol a gweithio’n gasgliadol pan fydd modd.

Bydd y wefan hefyd yn rhoi cymorth ymarferol i ysgolion er mwyn eu helpu i gwrdd â’r meini prawf angenrheidiol gan ddarparu ystod eang o adnoddau wedi’eu cynllunio’n bwrpasol am yr ardal a dilyniant o dargedi.

Yr Ysgolion sy'n cymryd rhan

 

Mae deg o ysgolion ynghlwm wrth y cynllun: Comins Coch, Craig yr Wylfa, Cwmpadarn, St Padarn, Llangynfelyn, Llanilar, Llwyn-yr-Eos, Rhydypennau, Talybont ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Helpu Gymru i fod yr Wlad Masnach Deg gyntaf

Ni ellid bod amser gwell i ysgolion gofleido Masnach Deg er mwyn cyfrannu at uchelgais Cymru i fod Gwlad Fasnach Deg gyntaf y byd.

Bydd ennill statws Ysgol Fasnach Deg i’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn sicr o’u rhoi ar y map am eu cyflawniad unigryw yn y Deyrnas Unedig.

Dychmygwch fod â deg o ysgolion Masnach Deg yn Aberystwyth a’r cylch erbyn Pythefnos Masnach Deg 2008!

Mae Ecodyfi yn rheoli’r cynllun a’r cyd-lynnydd yw Diane Isenberg.

Gellir cysylltu a hithau ar 01654 702282 neu yn diane@isenberg.freeserve.co.uk.