Rydych yma : Hafan > Ynglŷn â'r Cynllun > Cynhadledd

Cynhadledd Ysgolion Masnach Deg


CYNHADLEDD YSGOLION MASNACH DEG

Fair Trade Schools conference May 2007Lansiwyd y cynllun Fai 3ydd gyda chynhadledd a groesawyd gan Ysgol Penglais ac a fynychwyd gan fwy na 90 o gynghorwyr ysgol o’r 10 ysgol sy’n cyfrannogi.

Yn y gynhadledd dangosodd cyflwyniadau a gweithgareddau sut mae masnachu’n deg gyda gwledydd sy’n datblygu yn newid bywydau ffermwyr a chynhyrchwyr tlodion, sut mae cefnogaeth leol i Fasnach Deg yn cyfrannu at hyn, ac hefyd y rhan y gall ysgolion chwarae gan weithio i ennill statws Masnach Deg.


fair trade conferenceUchafbwyntiau

Ymhlith uchafbwyntiau’r gynhadledd ‘roedd cyfraniadau gan Mark Richardson o Fasnach Deg Cymru a Joan Karanja o Kenya, cyd-lynnydd rhaglenni’r Mudiad Cydweithredol am Fasnach Deg yn Affrica, a phresenoldeb y Faner Fyd-eang.

Mae’r Faner wedi teithio trwy fwy na 50 o wledydd o amgylch y byd er gadael Mumbai, Yr India ym mis Ionawr 2004.


Gweithgareddau

fair trade pineapple by ysgol llanilarCynhaliwyd awr a hanner o weithgareddau ymarferol cyffrous i’r disgyblion, gan gynnwys ‘Parod, Ewch, Coginiwch’ Masnach Deg, Argraffu gyda Ffrwythau Masnach Deg ar Gotwm Masnach Deg, Blasu bwydydd Masnach Deg a gemau megis ‘Lle yn y Byd y Tyfir y Bwyd hwn?’ a’r Gêm Berswád.

Cafodd pawb gyfle i flasu byrbrydau a diodydd Masnach Deg yn ystod y bore.

Dychwelodd aelodau’r cynghorion ysgol i’w hysgolion hwy llawn brwdfrydedd a chyda llawer o syniadau am sut mae cychwyn y gwaith ymarferol o fynd yn ysgol Fasnach Deg.


ysgol rhydypennau presenttation at fair trade conference

Diolch o galon i'r Wirfoddolwyr

Dylid diolch i’r holl wirfoddolwyr ymroddedig a baratáodd a threfnodd y gweithdai ardderchog trwy’r dydd.

Diolchiadau arbennig i ddisgyblion Grŵp Masnach Deg Penglais ac Ysgol Rhydypennau am eu cyfraniadau arbenning. Hebddoch chi i gyd ni ellid bod wedi cynnal y gynhadledd.

Os gallwn ni i gyd barháu i weithio gyda’n gilydd gallwn yn hawdd cyflawni’r nod rydym yn ei rannu o fynd yn ysgolion Masnach Deg!

pupils from comins coch school at fair trade schools conferenceMae arnom ddyled diolchgarwch hefyd i’r Co-op, i Tropical Wholefoods, i Tropical Forest Products ac i Traidcraft am roi’r holl fyrbrydau a diodydd Masnach Deg rhagorol y cawsom gyfle i’w blasu trwy’r bore.

Yn olaf, diolchgarwch mawr i Fasnach Deg Cymru i Oxfam Cymru, i Gymorth Cristogol Cymru, i’r Sefydliad Masnach Deg, i CAFOD, i Ganolfan Powys dros Addysg am yr Amgylchedd a Datblygiad (PEDEC) ac i Divine Chocolate, am eu cefnogaeth a’u cyngor yn ogystal ac am yr holl ddefnyddiau Masnach Deg penigamp y darparwyd ganddynt am eich pecynnau Masnach Deg.