Fel arfer mae digon o ddarpar fodelau mewn ysgol, a gall y sawl sy’n rhy swil i gerdded y llwyfan helpu gyda gwneud gwalltiau a’r colur, goleuo, cerddoriaeth, cyflwyno … yn wir, mae digon i’r ysgol gyfan gymryd rhan.
Cofiwch wneud yn siwr bod eich athrawon yn cael tro ar y llwyfan!
Fel arfer bydd amrywiol siopau a chynhyrchwyr Masnach Deg yn fodlon iawn benthyg dillad i grwpiau sy’n dymuno rhoi sioe ffasiynau Masnach Deg ar waith.
Mae pecyn yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol ynglyn â rhoi sioe ffasiynau llwyddiannus ar waith ar gael gan Fforwm Masnach Deg Cymru.
Mae peli chwaraeon Masnach Deg ar gael erbyn hyn gan Traidcraft ac eraill.
Gallwch drefnu cystadleuaeth gan ddefnyddio peli Masnach Deg rhwng timau ysgol gwahanol, neu wahanol ysgolion. Bechgyn v merched, blynyddoedd cymysg, staff v disgyblion – defnyddiwch eich dychymyg!
Gallwch droi cantîn neu ystafell fwyta’r ysgol yn arddangosiad o ba mor anghyfartal yw’r byd.
Mae pawb yn talu’r un swm am docyn (dyweder £2).
Mae ychydig o westeion lwcus yn cael gwledd Masnach Deg 5 cwrs sydd werth llawer mwy na £2, mae rhai’n cael reis a chyri Masnach Deg, a rhai dim ond reis.
Ffordd wych o ddangos sut mae ychydig ohonom yn mwynhau safon mor foethus o fyw, yn ogystal ag annog pobl i rannu eu cyfoeth!
Mae noson gwis bob amser yn llawer o hwyl, boed hi ar gyfer disgyblion a staff, neu deuluoedd a chyfeillion hefyd.
Gallwch gynnwys rownd ar Fasnach Deg i weld faint mae bawb yn ei wybod o ddifrif.
Mae ambell i ysgol wedi troi un o’u dosbarthiadau yn gaffi Masnach Deg am wythnos.
Gall disgyblion ddod yno i fwynhau coffi neu siocled poeth Masnach Deg ac i gnoi teisennau a bisgedi blasus Masnach Deg.
Mae hwn yn broject gwych i gyflwyno sgiliau busnes, ac mae llawer o hwyl i’w gael yn trefnu’r addurniadau, cerddoriaeth, marchnata …
Mae arweiniad ‘sut i …’ ar gael gan Fforwm Masnach Deg Cymru.
Llawer o hwyl un ai fel un digwyddiad neu fel cyfres o gyfarfodydd rheolaidd, yn ystod gwersi, amser cinio neu ar ôl yr ysgol.
Dewch ynghyd i roi cynnig ar ryseitiau ac i greu rhai newydd gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg!
Wel, mae hi’n bechod cadw’r holl ryseitiau Masnach Deg blasus yna i chi’ch hunan!
Dull gwych o gael bobl i bobi gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg, hyd yn oed os na allwch gyfarfod yn rheolaidd.
Ac mae gwahodd pobl i ddod i feirniadu’r canlyniadau yn sicr o fod yn achlysur poblogaidd!
Os oes unrhyw beth ar ôl wedi’r beirniadu (neu os nad ydych yn teimlo’n gystadleuol) gallwch werthu’r teisennau a rhoi’r arian i elusen sy’n datblygu dramor fel Oxfam neu Gymorth Cristnogol.
Masnach Deg yn mynd ymhellach fyth felly.
Mae digon o setiau mewn blwch ar gyfer nosweithiau dirgelwch llofruddiaeth yn seiliedig ar brydau.
Yn lle’r cynhwysion gwreiddiol defnyddiwch rai Masnach Deg tebyg.
Byrbrydau, nwyddau, hyd yn oed dillad a gemwaith Masnach Deg.
Os nad oes un yn eich ysgol eisoes yna gallwch roi cynnig ar ei sefydlu.
Un ai cysylltwch â’ch cyfanwerthwr Masnach Deg (manylion ar gael gan Fforwm Masnach Deg Cymru) neu cysylltwch â Traidcraft.
Gall drama fod yn ffordd effeithiol iawn o drosglwyddo neges.
Gallwch gysylltu â Fforwm Masnach Deg Cymru am sgript, neu eu llwytho i lawr o’r wefan.
Nid yw pawb yn credu bod Masnach Deg yn beth da.
Chwiliwch am rywun yn yr ysgol sy’n fodlon dadlau yn ei herbyn a chynnal dadl gyhoeddus.
Yna gadewch i’r gynulleidfa benderfynu a yw’n beth da a’i peidio.
Os na allwch chi ddod o hyd i wrthwynebwyr go iawn mae’n debyg y gallwch ddod o hyd i ddadleuon amheus yn erbyn Masnach Deg ar y rhyngrwyd!
Pwy sy’n dweud mai ar gyfer plant ysgol gynradd yn unig mae helfa?!
Rhywbeth y gallwch ei chynnal unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Gallwch osod y cliwiau i arwain bobl ar lwybr o amgylch yr ysgol a chuddio melysion Masnach Deg ar hyd y ffordd, neu eu cyflwyno fel gwobrwyon ar y diwedd.
Gallwch hyd yn oed gynnwys ambell i ffaith Masnach Deg yn y cliwiau.
Mae’r gwneud cyn bwysiced â bod yn berchen ar faner i’w harddangos ar ddiwedd y gweithgaredd.
Project gwych i’r adran gelf, neu ddosbarth arbennig.
Gallwch ei chyflwyno i’ch grwp Masnach Deg lleol wedi ei chwblhau.
Dylai hyn annog rhieni i ddod draw i unrhyw noson rieni …
Unrhyw esgus!
Mae Marks & Spencer bellach yn gwerthu hosanau cotwm a chrysau-T o gotwm Masnach Deg.
Ond rydw i’n sicr nad oes neb wedi profi pa mor bell y gellir taflu pâr o hosanau Masnach Deg ar ôl eu rowlio’n belen!
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael pâr o hosanau Masnach Deg eu hunain. Beth am gychwyn cystadleuaeth ledled Cymru?!
Nid oes rheswm o gwbl pam na ddylai unrhyw wisg gael ei chynhyrchu gyda chotwm Masnach Deg.
Cewch fanylion cyflenwyr cotwm Masnach Deg, a chynhyrchwyr dillad cotwm Masnach Deg gan Sefydliad Masnach Deg. www.fairtrade.org.uk
Yn y DU rydym yn yfed 163 miliwn cwpanaid o de y dydd!
Felly, ar gyfartaledd, mae pob unigolyn yn y DU yn yfed 900 cwpanaid y flwyddyn.
Mae hynny oddeutu 225 litr, mwy na digon i lenwi baddon.
Ac os wnewch chi osod olwynion ar eich baddonau gallwch eu rasio hefyd …
Gallwch lunio taffi yn unrhyw ffurf.
Pam na wnewch chi ei wneud drwy ddefnyddio siwgr Masnach Deg a llunio enw’r ysgol?
Neu lunio enw’r dref a’i gyflwyno i’r Maer?
Yna byddech yn gallu rhannu’r llythrennau a dyfalu faint fyddai’r cynhyrchwyr siwgr yn ei gael fel canran o bris siwgr mewn archfarchnad.

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion