
Gan gwrdd â’r pump nod Masnach Deg a ganlyn:
Cewch afael mewn pobl ymroddedig i redeg y sioe. Bydd rhaid wrth gynrychiolwyr y disgyblion, yr athrawon a’r staff arlwyo. Cwrddwch yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn symud ymlaen, casglwch dystiolaeth (lluniau, cofnodion cyfarfodydd ayyb) ac ysgrifennwch adroddiad terfynol.
Cytunwch bolisi Masnach Deg ar gyfer yr holl ysgol (Addewid neu osodiad sy’n dangos sut mae’r ysgol yn ymroi i Fasnach Deg). Dylai’r polisi ddatgan bod Masnach Deg yn rhan o Gynllun Datblygu’r Ysgol (cyfrifoldeb yr athrawon).
Nod 3: Cyflwynwch Gynnyrch Masnach Deg i’r ysgolMae hyn yn golygu gwerthu cynnyrch Masnach Deg ble bynnag y gallwch gan gynnwys y siop docyn, cynnig cynnyrch Masnach Deg (e.e. te, coffi a bisgedi) ym mhob cyfarfod a digwyddiad, a defnyddio peli chwaraeon Masnach Deg..
Dylai rhai gweithgareddau Masnach Deg fod ar gyfer yr holl ysgol – e.e. digwyddiadau arbennig yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Efallai y gellid cymryd neges Masnach Deg allan i’r gymuned leol, e.e. gan drefnu digwyddiad Masnach Deg gyda’r nos ar gyfer rhieni a’r gymuned.
Mae athrawon yn gallu sicrhau y cynhwysir materion Masnach Deg mewn gwersi ac yn hyfforddiant y staff. Dylid hefyd trefnu arddangosfa Fasnach Deg yn yr ysgol. Gallech ymroi i wneud rhywbeth ychwanegol bob blwyddyn, ac i weithredu dros gyfiawnder mewn masnach.
Bydd rhaid i’r grp gyflwyno adroddiad am bolisi Masnach Deg yr ysgol, ynghyd â thystiolaeth am yr hyn yr ydych wedi’i wneud. Dylid anfon hwn at: The Fairtrade Foundation Schools Co-ordinator, Fairtrade Foundation, Room 204, 16 Baldwin Gardens, LONDON EC1N 7RL.
(Seiliedig ar wybodaeth o wefan CAFOD)

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion