Rydych yma : Hafan > Cynnyrch Masnach Deg > Lle Mae Prynu Cynnyrch Masnach Deg > Archebu Fesul Llwyth

Archebu swmp


ordering fair trade productsMae prynu nwyddau masnach deg yn helpu i newid bywydau miloedd o ffermwyr bach a chrefftwyr yn y gwledydd sy’n datblygu.

Masnachwr Masnach Deg Lleol – CYNNIG ARBENNIG AM 6 MIS

Mae Arnold Smith, yn hael iawn, yn cynnig defnyddio ei ddisgownt 10% gan Traidcraft am gyfnod o 6 mis I ysgolion sydd am roi cynnig ar gynnyrch Masnach Deg. Os yr ydych am gymryd mantais o’r cynnig hwn, archebwch trwyddo Arnold cyn pen tymor yr Haf a rhoi gwybod iddo pryd yr ydych am iddo anfon y cynnyrch i’r ysgol ar ddechrau tymor yr Hydref. Ceir catalogau Traidcraft yn eich pecyn adnoddau.

Am fanylion a gwybodaeth bellach cysylltwch ag Arnold Smith yn: sarnoldj.glandwr@tiscali.co.uk Glandwr, Maes Hywel, Rhydyfelin, Aberystwyth SY23 4PU 01970 611769


Archebu swmp

 

Byddwch yn Fasnachwr Teg i Traidcraft

Masnachwyr Teg yw’r rheiny sy’n hyrwyddo masnach deg drwy drefnu bod nwyddau Traidcraft ar gael yn rheolaidd i eraill. Byddai hyn yn addas i ysgolion sy’n prynu’n rheolaidd ar gyfer y siop fwyd a’r ystafell athrawon.

Mae’n bosib y byddai’n werth chweil i rai ysgolion ddod at ei gilydd i ddod yn Fasnachwr Teg i Traidcraft.

Mwy o wybodaeth am ddod yn Fasnachwr Teg.

 

Dewch yn Gwsmer Arlwyo Traidcraft

Cwsmeriaid Arlwyo yw pobl sy’n hyrwyddo masnach deg drwy annog eu cydweithwyr a’u ffrindiau i ddefnyddio’r nwyddau yn eu gwaith. Byddai hyn yn addas i staff sydd eisiau’r cyfleustra o gael coffi a the Masnach Deg wedi ei anfon yn uniongyrchol i’r ysgol.

Mwy o wybodaeth am fod yn Gwsmer Arlwyo