Mae peli chwaraeon Masnach Deg ardystiedig sydd ar werth yn y DU yn deillio o ardal Sialkot ym Mhacistan.
Amcangyfrifir y gwneir cymaint â 60% o beli pêldroed y byd yn, neu ar bwys, Sialkot.
Yn y ffatrïoedd na sydd ynghlwm wrth Fasnach Deg mae’r gweithwyr yn gweithio oriau hir iawn am gyflog isel iawn, ac mae plant yn gorfod gweithio.
Fodd bynnag, wrth brynu peli chwaraeon Masnach Deg gallwch fod yn sicr bod y gweithwyr yn derbyn cyflog teg mewn ffatri ddiogel, a nad oes yna blant yn cael eu cyflogi.
Mae’r gweithwyr hefyd yn derbyn arian ar gyfer y gymuned, arian y gallant ei wario ar gynlluniau yn y gymuned i wella addysg a iechyd am eu teuluoedd.
Darllenwch am sut mae Sameena Niaz o Sialkot wedi elwa o waith Masnach Deg.
Mae gan The Fair Deal Trading Company amrywiaeth llawn o beli chwaraeon Masnach Deg.

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion