Dylai diet iach fod yn iach nid yn unig i’r bobl sy’n bwyta’r bwyd ond hefyd i’r rheiny sy’n ei dyfu a’i gynhyrchu! Dylent gael cyflog y gallant fyw arno yn ogystal â bod eu hiechyd a’u diogelwch yn cael eu sicrhau.
Gall ysgolion hyrwyddo bwyta’n iach a mynd un cam ymhellach drwy ddarparu ac annog byrbrydau masnach deg iachus.
Fel rhan o’r meini prawf i bob ysgol gyrraedd statws masnach deg dylid sicrhau bod yr eitemau canlynol ar gael yn siop fwyd yr ysgol. Mae siopau bwyd yn gallu bod yn hwyl ac yn fan cychwyn iachus i ddisgyblion ddysgu am fasnach deg a phrynu cynnych masnach deg â’u harian eu hunain.
Dim siop fwyd yn yr ysgol?Gallwch ddod â byrbryd Masnach Deg gyda chi ar gyfer amser chwarae neu gael nwyddau Masnach Deg yn eich bocs tocyn os ydych chi’n mynd â’ch bwyd eich hun i’r ysgol.
Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o:

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion