Rydych yma : Hafan > Cynnyrch Masnach Deg > Bwyta'n Iach > Ffrwythau Masnach Deg

Ffrwythau Masnach Deg


Bananas

man with fair trade bananasBananas yw’r ffrwythau sy’n gwerthu fwyaf yn y DG, a’r cynnyrch groser mwyaf gwerthfawr i archfarchnadoedd. Mae bananas Masnach Deg ar gael yn y Co-opMorrisons, Nisa, Somerfield , Lidl a Spar, a rhai siopau bwyd bach eraill. Mae’r rhan fwyaf o fananas Masnach Deg yn dod o’r Caribî a Chanol De America.

Orennau a Ffrwythau Citraidd

Mae Orennau, Lemonau, Satswmas, Clementinau, Orennau Bogeiliog, Orennau Bogeiliog Hwyr a Valencias ar gael yn aml yn y Co-op ac mae orennau a lemonau hefyd ar gael yn Morrisons ..

Mae ffrwythau citraidd Masnach Deg yn dod o Dde Affrica, Moroco a’r Aifft.

apple

Afalau

Mae afalau Masnach Deg o Dde Affrica ac ar gael o’r Co-op, a Morrisons pan fyddant yn eu tymor.

Grawnwin

Mae grawnwin gwyrdd a choch o Dde Affrica ar gael pan fyddant yn eu tymor o’r Co-opMorrisons. Mae’r ffermydd sy’n cynhyrchu grawnwin Masnach Deg yn rhan o fenter  Thandi. Mae hyn yn cefnogi prosiectau rhoi grym i bobl yn Ne Affrica, lle y gall gweithwyr ddod yn gydberchnogion ffermydd ffrwythau.

fair trade mangoes

Mangos

Mangos yw’r ffrwyth trofannol mwyaf toreithiog yn y byd ond nid yw llawer o siopwyr Prydeinig yn gyfarwydd â’r ffrwyth oherwydd nad ydynt erioed wedi blasu un.

Gosodwch y ffasiwn drwy brynu mangos Masnach Deg o’r Co-op, neu Morrisons, pan fyddant yn eu tymor.

Gellyg ac Eirin

Mae gellyg ac eirin Masnach Deg o Dde Affrica ar gael o’r Co-op pan fyddant yn eu tymor.

Afalau Pîn

Mae afalau pîn Masnach Deg o Gosta Rica a Ghana ar gael o’r  Co-op a Morrisons.