Mae’r 'Fruit Passion Range' gan Traidcraft yn cynnwys 3 gwahanol fath o sudd Masnach Deg mewn cartonau 200ml cyfleus. Cymysgedd trofannol o orennau, mangos, afalau pîn ac afalau yw Fruit Passion Tropical. Mae Fruit Apple Passion wedi’i wneud o afalau sydd wedi’u tyfu yn Ne Affrica, ac mae Fruit Passion Oranges wedi’i wneud o orennau sydd wedi’u tyfu yng Nghiwba. Gellir prynu’r cartonau bach hyn yn siop Oxfam neu drwy’r post oddi wrth Traidcraft.
Mae’r Co-op yn gwerthu cartonau 1 litr o’r Fruit Passion Range a’u carton 1 litr nhw eu hunain o sudd oren oer a photeleidiau plastig 500ml o sudd oer. Mae Lidl hefyd yn gwerthu carton litr o sudd oren Masnach Deg.

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion