Rydych yma : Hafan > Cynnyrch Masnach Deg > Bwyta'n Iach > Byrbrydau Masnach Deg

Byrbrydau Masnach Deg


fair trade snacksMae dewis anferth o Fyrbrydau Masnach Deg iachus ar gael yn amrywio o ffrwythau sych a chnau i farrau a gellir dod o hyd iddyn nhw yn Aberystwyth yn Siop Oxfam, y Tree House a Maeth y Meysydd. Pan fyddwch chi yn y dref beth am fynd i gael cip ar yr amrywiaeth o fyrbrydau iachus sydd ar gael!


Barrau Grawnfwyd

geobar

Geobars

Barrau grawnfwyd blasus, meddal a digon o gnoi yddyn nhw yw Geobars gyda blas maethlon ffrwythau iawn, ceirch a mêl, sy’n dod o Traidcraft, ac maen nhw ar gael mewn 3 blas: Apricot and Raisin, Cranberry and Raisin a Chocolate and Raisin. Gellir eu prynu o siop Oxfam neu eu harchebu drwy’r post oddi wrth Traidcraft.

Doves Farm

Mae Original Organic Fairtrade Flapjack (40g) o fwydydd Masnach Deg Doves Farm a Apple and Sultana Organic Fairtrade Flapjack (40g) gan Doves Farm ar gael o Oxfam neu’r Co-op.

Ffrwythau Sych

Mae pecynnau byrbryd Raisin and Apricot a Raisin Traidcraft yn fyrbrydau blasus a maethlon a wnaiff eich cadw i fynd drwy’r dydd.  Mae byrbrydau ffrwythau sych eraill Traidcraft yn cynnwys: y Fruit Snack, stribedi danteithiol o ellyg, eirin gwlanog a nectarins sych,  Exotic Fruit Mix, sef mango, rhesins a bricyll, a’r Tropical Fruit Mix, sef afalau pîn, papaya, bricyll a rhesins. Mae’r rhain ar gael yn siop Oxfam neu drwy’r post o Traidcraft.

Mae gan Tropical Wholefoods ddewis da o fyrbrydau ffrwythau sych. Mae Mountain Mix yn cyfuno cnewyll bricyll, cnau Ffrengig, afalau a bricyll sych. Mae ganddyn nhw hefyd Sweet Apricot Kernel Snack Pack, a Banana Chip Snack Pack, Organic Dried Mango a Snack Size Apricot pack. Mae’r cynhyrchion hyn ar gael o siop Oxfam neu drwy’r post oddi wrth Tropical Wholefoods.

Cnau

Mae Cymysgedd Gnau, cnau Brasil, almwnau, cnau Ffrengig a chnau cashiw a Cymysgedd Ffrwythau a Chnau, rhesins, cnau cashiw a chnau daear hefyd ar gael o siop Oxfam neu drwy’r post oddi wrth Traidcraft.

DALIWCH I EDRYCH YMA AM FANYLION RHAGOR O FYRBRYDAU IACHUS !