Rydych yma : Hafan > Cynnyrch Masnach Deg > Te a Choffi

Coffi a The Masnach Deg


fair trade cafe organicMae gan eich athrawon ddigonedd o ddewis pan ddaw hi’n fater o brynu coffi a the Masnach Deg!

Gallant ddewis o nifer o frandiau o goffi parod a choffi mâl Masnach Deg, gyda chaffein a heb gaffein a gallant hyd yn oed brynu coffi organig Masnach Deg. Gallant ddewis rhwng te gyda chaffein a heb gaffein a nifer o fathau arbenigol o de. Mae’r math iawn a’r pris iawn o ran coffi a the Masnach Deg ar gael i fod yn addas i bawb!

Mae coffi a the Masnach Deg ar gael o’r Co-op, Somerfield, Oxfam, The Tree House, Maeth y Meysydd a’r Mecca. Mae coffi hefyd ar gael o Morrisons a Lidl. Gellir prynu te a choffi drwy’r post oddi wrth Traidcraft .