Rwy’n gobeithio bod Cynhadledd Ysgolion Masnach Deg wedi’ch helpu i gael llawer o syniadau am sut i wneud eich ysgol chi yn Ysgol Masnach Deg. Bydd Prosiect Ysgolion Masnach Deg yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau a dathlu’ch llwyddiant gydag ysgolion eraill trwy wefan sydd wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn.
Mae pob ysgol yn mynd i gael ei thudalen ei hun fel y gallwch adael i ysgolion eraill wybod am bopeth rydych yn ei wneud er mwyn i’ch ysgol chi ddod yn Ysgol Masnach Deg.
Rydyn ni angen enw a logo bachog i’r gystadleuaeth, felly rydyn ni’n trefnu cystadleuaeth i’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan i feddwl am enw dwyieithog a chynllun logo ar gyfer y prosiect.
I’ch helpu i gael syniadau gallech gael cip ar logo Masnach Deg. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Mai 19. Yn anffodus, dim ond un cynnig fyddwn ni’n ei dderbyn o bob ysgol, felly mae gennych y gwaith anodd o ddewis yr un i’w anfon i mewn.
Bydd yr un sy’n ennill yn derbyn £50 ar gyfer adnoddau Masnach Deg, a bydd yr enw a’r logo’n cael eu defnyddio ar y wefan ac ar holl ddeunyddiau’r prosiect.
Mae angen i chi feddwl am sut rydych yn mynd i greu brwdfrydedd ymhlith pawb yn yr ysgol er mwyn cael Ysgol Masnach Deg.
Bydd y wefan yn cael ei lansio ar y diwrnod cyntaf ar ôl hanner tymor, sef Mehefin 4ydd. Bydd llwyth o wybodaeth a syniadau defnyddiol ar y wefan i’ch helpu i ddod yn Ysgol Masnach Deg.
A bydd gan eich ysgol chi ei thudalen ei hunan er mwyn i chi ddangos beth rydych wedi bod yn ei wneud, a bwrdd bwletin i drafod y prosiect gyda phlant o ysgolion lleol eraill.
Peidiwch ag anghofio cadw cofnodion o’ch cyfarfodydd, a thynnu llawer o luniau o bob un o’r gweithgareddau Masnach Deg fydd yn digwydd yn eich ysgol chi.
Wrth gyflwyno cais i ddod yn Ysgol Masnach Deg bydd yn rhaid i chi ddangos beth rydych wedi’i wneud.
Yn bwysicach na dim, wrth ddod yn Ysgol Masnach Deg, cofiwch eich bod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a theuluoedd mewn llawer o wahanol rannau o’r byd – rhai rydyn ni’n dibynnu arnyn’ nhw i dyfu llawer o’n bwyd a gwneud ein dillad.

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion