Rydyn ni angen enw a logo bachog i’r gystadleuaeth, felly rydyn ni’n trefnu cystadleuaeth i’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan i feddwl am enw dwyieithog a chynllun logo ar gyfer y prosiect. I’ch helpu i gael syniadau gallech gael cip ar logo Masnach Deg. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Mai 19. Yn anffodus, dim ond un cynnig fyddwn ni’n ei dderbyn o bob ysgol, felly mae gennych y gwaith anodd o ddewis yr un i’w anfon i mewn. Bydd yr un sy’n ennill yn derbyn £50 ar gyfer adnoddau Masnach Deg, a bydd yr enw a’r logo’n cael eu defnyddio ar y wefan ac ar holl ddeunyddiau’r prosiect.

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion