Mehefin - Gorffenaf 2007
Mehefin 4ydd 2007
Annwyl Gynghorion Ysgol,
‘Rwy’n gwybod y bu llawer ohonoch yn brysur iawn er y Gynhadledd yn cynllunio gweithgareddau Masnach Deg yn eich ysgol ac yn trin a thrafod sut yr ydych am wneud eich ysgol yn Ysgol Fasnach Deg.
Cyrraedd y nod
Mae toreth o bethau ichi eu gwneud yn ystod gweddill y tymor! Gobeithio y byddwch wedi sefydlu eich Cyngor Ysgolion Masnach Deg ac eich bod yn barod i ddechrau penderfynu beth fydd Polisi Masnach Deg eich ysgol. Mi wn eich y buoch yn meddwl am eich Digwyddiad Masnach Deg ac yn awr bydd rhaid i chi ei drefnu a’i redeg. I orffen, os oes gennych amser ar ôl gallwch ddechrau ystyried pa gynnyrch Masnach Deg y gallwch eu defnyddio yn eich ysgol.
Y Wefan
Mae’r wefan yn eiddo i chi. Nid yn unig y mae arni doreth o wybodaeth ddefnyddiol ond, yn bwysicach oll, mae gan eich ysgol ei thudalen we ei hun. Mae hi’n bwysig dros ben sicrhau eich bod yn rhoi yr hyn ‘rydych yn yn ei wneud ar eich tudalen we, gan gynnwys llawer o luniau! Mae’ch athro yn gwybod sut mae rhoi beth bynnag yr ydych chi eisiau ar dudalen we’ch ysgol. Bydd hefyd ardal hysbysfwrdd lle gallwch gloncan am yr hyn y mae’ch ysgol yn ei wneud gyda disgyblion ysgolion eraill.
Cystadleuaeth Logo ac Enwi'r Cynllun
Byddwn yn meddwl ei bod yn anodd i chi ddewis un cais yn unig i’r gystadleuaeth. Mae’r ceisiadau wedi gwneud cryn argraff arnaf, ac ni allaf aros i wybod pwy ennillodd! Cliciwch ar logo’r cynllun ac eicon y gystadleuaeth o dan ‘Cyrraedd y Nod’ ar wefan y cynllun i gael manylion ynghylch pleidleisio.
Digwyddiad Ysgol Fasnach Deg
- Peidiwch anghofio rhannu’ch syniadau am eich digwyddiad Ysgolion Masnach Deg a dogfennu’r digwyddiad gyda llawer o luniau ac adroddiad sgrifenedig.
- Gallai’ch digwyddiad ‘holl-ysgol’ fod yn rhan o ymgais i dorri record y byd am bicnic Ddydd Gwener Mehefin 29ain. Cliciwch ar yr eicon picnic ar y wefan am ragor o fanylion.
Polisi Ysgolion Masnach Deg
- Bydd rhaid i chi benderfynu ar Bolisi Masnach Deg eich ysgol a’i ysgrifennu.
- Gallwch gael syniadau wrth edrych ar y Polisi Masnach Deg Enghreifftiol ar y wefan o dan y tab ‘Meini prawf’ sydd i’w gael o dan y tab ‘Cyrraedd y Nod’.
- Cofiwch wneud yn siwr y llofnodir y polisi gan y llywodraethwyr, gan y staff a gennych chi, cyngor y myfyrwyr.
Cyflwyno Cynyrch Masnach Deg i'ch Ysgol
Ceir pedair prif ffordd o gyflwyno cynnyrch Masnach Deg i’ch ysgol:
- Gallwch brynu cynnyrch Masnach Deg iachus i’w werthu yn eich siop docyn os oes un yn eich ysgol, a gallwch annog disgyblion ac aelodau’r staff i brynu bwydydd Masnach Deg iachus am eu byrbrydau a’u blychau cinio!
- Gnewch eich gorau i berswadio’ch athrawon y dylent yfed coffi a the Masnach Deg yn ystafell y staff. Beth yw’ch cynlluniau chi i’w cael i newid i gynnyrch Masnach Deg os nad ydynt yn defnyddio cynnyrch Masnach Deg yn barod? Rhannwch eich syniadau ar yr hysbysfwrdd.
- Gallwch brynu peli chwaraeon Masnach Deg. Gan eu bod yn ddrutach na pheli chwaraeon cyffredin, mae Ysgol Craig yr Wylfa wedi ystyried dechrau gan brynu peli Masnach Deg i’w defnyddio yn eu gemau yn erbyn ysgolion eraill. Cofiwch roi gwybod i ni am eich syniadau ar y wefan.
- Gallwch weld a oes modd i’ch ysgolion brynu gwisg unffurf Masnach Deg.
- Mae gwybodaeth i’w chael am yr holl gynnyrch Masnach Deg hwn, a lle y gallwch eu prynu, o dan ardal ‘Cynnyrch Masnach Deg’ y wefan. Byddaf hefyd yn dod i ymweld â chi gan ddod ag enghreifftiau o fyrbrydau iachus a chyngor ar y ffyrdd gorau i brynu ffrwythau, suddion, byrbrydau iachus, coffi a the.
Fy Ymweliad
Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â chi y tymor hwn fel y gallwch ddweud wrthyf beth wnaethoch hyd yn hyn tuag at fynd yn Ysgol Fasnach Deg. Byddaf hefyd yn defnyddio’r ymweliad hwn i ddangos enghreifftiau o’r cynnyrch sydd ar gael ac i drafod ble y gallwch brynu’r rhai yr ydych yn eu hoffi.
Tystiolaeth Dros Fynd yn Ysgol Fasnach Deg
Bydd rhaid i chithau ac i’ch athro Masnach Deg ddangos eich bod wedi gwneud popeth sydd ei hangen er mwyn dod yn Ysgol Fasnach Deg. Gallwch edrych ar y meini prawf gyda’ch athro ar y wefan. Bydd eisiau i chi benderfynu sut yr ydych am ddangos yr hyn a wnaethoch.
- Gallwch gadw llyfr lloffion o’ch holl weithgareddau a digwyddiadau, cofnodion o gyfarfodydd a thystiolaeth eich bod yn prynu cynnyrch Masnach Deg.
- Cewch hefyd wneud hyn ar gyfrifiadur wrth ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint a chadw eich cofnodion o gyfarfodydd a thystiolaeth arall ar raglenni eraill.
Chi sy’n gallu dewis sut mae ei wneud, ond byddwch yn siwr eich bod yn dogfennu popeth yr ydych yn e wneud!
‘Rwy’n edrych ymlaen at ddod i gwrdd â chi nes ymlaen yn y tymor hwn.
Cofion cynnes,
Diane Isenberg
Cyd-lynnydd Cynllun Ysgol Fasnach Deg