Rydych yma : Hafan > Amserlen Weithredol > Tymor yr Hydref 2007

Tymor yr Hydref 2007


                                                                                                                            Medi 4ydd 2007 

 Annwyl Gynghorion Ysgol,                                            

Llongyfarchiadau ar yr holl waith caled a wnaethoch, chithau a’ch ysgolion, dros dymor yr haf. ‘Rydych wedi symud ymhell tua’r nod o fod yn Ysgolion Masnach Deg. 

Fe gynhaliodd llawer ohonoch bicnics anhygoel Fehefin 29ain lle cawsoch hwyl a miri mawr a blasu amrywiaeth o gynnyrch Masnach Deg. Rydym yn aros i glywed a dorrwyd record y byd! (Gweler ein newyddion diweddaraf ar y wefan o dan Picnics Masnach Deg : Llwyddiant Mawr.) 

Mae’r rhai ohonoch sydd â siopau tocyn wedi cyflwyno peth cynnnyrch iachus Masnach Deg iddyn nhw, gan gynnwys suddion Masnach Deg, bananas, geobars a resins. Mae ysgolion eraill yn ystyried cyflwyno siopau tocyn ac maen nhw wedi rhoi treial i gynnyrch Masnach Deg i weld a ddylai’r ysgol sefydlu siop docyn.

Mae llawer o’ch athrawon wedi cymryd rhan yn y ‘blasu dall’ ar goffi a the Masnach Deg a wedi dechrau yfed coffi a the Masnach Deg yn ystod eu hamser paned. Sleifiodd Cynghorion Masnach Deg Talybont a Llangynfelyn i mewn a dwgyd y te a choffi nad oedd yn Fasnach Deg o ystafelloedd staff yr ysgolion hyd nes y cytunodd yr athrawon i newid i de, coffi a siwgwr Masnach Deg yn ystafell y staff.  

Ceir rhai tudalennau gwe gwych gan ysgolion ar y wefan. Peidiwch ag anghofio i ddal i ddiweddaru tudalen gwe eich ysgol! 

CYRRAEDD Y NOD

Er mwyn cyrraedd ein nod o fod y grŵp cyntaf o ysgolion yn y du i ennill statws Masnach Deg yn y flwyddyn ysgol bresennol bydd rhaid i chi barháu â’ch holl waith caled!

  • Bydd yn rhaid i’ch Pwyllgor Ysgolion Masnach Deg barháu i gwrdd ac i gynllunio’r digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y tymor hwn.
  • Bydd rhaid i chi ysgrifennu Polisi Masnach Deg ar gyfer eich ysgol chi.
  • Ar ôl eich digwyddiad Masnach Deg llwyddianus iawn y tymor diwethaf bydd rhaid i chi ddechrau meddwl am eich Digwyddiad Masnach Deg am y tymor hwn.
  • Mae llawer o ysgolion wedi cyflwyno rhai byrbrydau Masnach Deg, ac yn awr bydd rhaid i chi ystyried a oes modd i chi brynu peli chwaraeon a gwisgoedd unffurf Masnach Deg.
  • Bydd eich athrawon yn ystyried sut y cyflwynir syniadau Masnach Deg yn eu gwersi

POLISI MASNACH DEG YSGOLION

  • Bydd rhaid i chi benderfynu ac ysgrifennu Polisi Masnach Deg eich ysgol.
  • Gellwch gael syniadau gan edrych ar y Polisi Masnach Deg enghreifftiol.
  • Cofiwch sicrhau y llofnodir y polisi gan y llywodraethwur, y staff a chithau, cyngor y disgyblion. 

DIGWYDDIAD MASNACH DEG YR YSGOL 

  • Mae hi’n bosibl y gallai’ch digwyddiad ‘holl-ysgol’ y tymor hwn asio â digwyddiad arall yn yr ysgol, er enghraifft trefnu arddangosfa a gweini coffi, te a bisgedi Masnach Deg yn ystod Cyngerdd Nadolig eich ysgol, neu unrhyw ddigwyddiad arall a gynhelir yn ystod tymor yr Hydref. 
  • Peidiwch ag anghofio i rannu’ch syniadau am eich digwyddiad ar eich tudalen we ac i ddogfennu’ch digwyddiad gyda llawer o luniau ac adroddiad ysgrifenedig. 

CYFLWYNO CYNNYRCH MASNACH DEG I’CH YSGOL

  • Y mae pedwar peth y gellwch eu gwneud i gyflwyno cynnyrch Masnach Deg i’r ysgol, ac mae nifer o ysgolion wedi gwneud rhai o’r pethau hyn.
  • Gellwch brynu cynhyrchion iachus Masnach Deg i’w gwerthu yn eich siop docyn os oes un gennych yn eich ysgol, a gellwch annog disgyblion a staff i brynu bwydydd Masnach Deg am eu byrbrydau a’u blychau cinio!
  • Gellwch annog eich athrawon i brynu coffi a the Masnach Deg i ystafell y staff os nad ydynt yn eu prynu yn barod.
  • Gellwch brynu peli chwaraeon Masnach Deg. Gan eu bod yn ddrutach na pheli chwaraeon cyffredin mae rhai ysgolion yn ystyried eu prynu i’w defnyddio yn eu gemau yn erbyn ysgolion eraill. Cofiwch roi gwybod am eich syniadau i ni ar y wefan. 

Gwersi Masnach Deg

  • Ceir llawer o ffyrd gwahanol y gall eich ysgol benderfynu i gyflwyno gwersi Masnach Deg yn yr ysgol.
  • Bydd llawer o’ch ysgolion yn ymdrin â Masnach Deg mewn gwersi.
  • Bydd eich athro Masnach Deg yn cynllunio gyda’r athrawon eraill sut y bydd eich ysgol yn cynnwys rhai gwersi Masnach Deg y flwyddyn ysgol hon.
  • Cewch hefyd edrych ar y gwefannau o dan  'Adnoddau i Ddisgyblion'  i ddechrau dysgu rhagor am Fasnach Deg! 

Tystiolaeth o Blaid Mynd yn Ysgol Fasnach Deg

Bydd rhaid i chi ac i’ch athro Masnach Deg ddangos eich bod wedi gwneud popeth sydd eisiau er mwyn mynd yn ysgol Fasnach Deg. Cewch edrych o dan y Meini Prawf ar y wefan gyda’ch athro i weld sut y ffordd y mae’r Sefydliad Masnach Deg am i chi gyflwyno’r dystiolaeth . ‘Rwy’n edrych ymlaen at ddod i’ch cyfarfod chi nes ymlaen yn y tymor. 

Dymuniadau gorau, 

Diane Isenberg

Cydlynydd Cynllun Ysgolion Masnach Deg