Posted on 16th Jul 2007
Cynhwysodd y Cambrian News erthygl yn eu rhifyn o Orffenaf 12fed a amlygodd yr ysgolion yng Ngheredigion a gymerodd ran yn y “Picnic Mawr”. Dangoswyd lluniau o ambell un o’r ysgolion, a soniwyd am werthu byrbrydau Masnach Deg yn siopau tocyn yr ysgolion.
Posted on 12th Jul 2007
Dywedodd Mark Richardson, swyddog datblygu Masnach Deg Cymru, “Digwyddodd Picnic Mawr Masnach Deg mewn mwy na 60 o leoliadau trwy Gymru benbaladr. Gosodwyd record y byd am Bicnic Masnach Deg yn Tenerife ym 1999, pryd cymerwyd rhan gan 8000 o bobl. ‘Rydym yn archwilio yn awr i weld a ydy’r digwyddiadau yng Nghymru wedi torri’r record.” Mae’n ymddangos yn debygol y cymerodd cymaint â 10,000 o bobl ran yn y digwyddiad.
Gwnaeth Cynllun Masnach Deg Ysgolion Gogledd Ceredigion gyfraniad mawr, gydag ysgolion Comins Coch, Craig yr Wylfa, Llangynfelyn, Llanilar, Penglais, Rhydypennau a Thalybont yn cymryd rhan. Cynhaliodd yr holl ysgolion eu picnics trwy’r dydd Fehefin 20ain: bu rhai yn yr heulwen ond gorfodwyd eraill i fynd dan do oherwydd gawodydd.
Gwahoddodd Ysgol Llangynfelyn Grŵp Meithrin Taliesin i ymuno â hwy a bu ganddynt tua 60 o blant yn eu picnic.Aeth Rhian Nelmes, athrawes ddolen Ysgolion Masnach Deg i Morrison’s, Aberystwyth, ar ôl yr ysgol i brynu’r bwyd: bananas, sudd ffrwythau, geobars a siocled i wneud cacennau ‘rice krispie’. Siaradodd â rheolwr yr archfarchnad am yr hyn yr oeddent yn ei wneud – ac fe roes e’r bwyd iddynt yn ddi-dal!
Dywedodd Emlyn Jones, Ysgol Craig yr Wylfa, “Fe gawson ni amser da iawn mas ar y gwair. ‘Roedd yn syfrdanol faint o stwff y dwnwyd i mewn … bu’r plant yn wirioneddol brysur wrth eu siopa!! ‘Roedd y tywydd yn wych.”
Mwynhaodd disgyblion Ysgol Rhydypennau ddwy awr o dywydd ardderchog wrth bicnicio ar danteithion masnach deg yr oeddent wedi dod â nhw o gartref. Meddyliodd Helen Jones mai llwyddiant mawr y picnic oedd gwneud y disgyblion a’u rhieni yn fwy ymwybodol o’r ystod o gynnyrch Masnach Deg sydd ar gael wrth iddynt fynd i siopa am fyrbrydau Masnach Deg i ddod â hwy i’r picnic.
Cynhaliodd Ysgol Penglais eu ‘picnic’ nhw o dan do oherwydd y tywydd annibynadwy. Blasodd tua 40 o ddisgyblion ffrwythau, suddion a barrau grawnog iachus, yn ogystal â siocled a chacennau. Lledaenon nhw wybodaeth am Fasnach Deg a chynnal cwis ar y pwnc.

Trefnodd Grŵp Masnach Deg Aberystwyth y picnic Masnach Deg a gynhaliwyd yn Ysgol Llanilar. Daeth Dr Jen Horgan â bananas a sudd oren. Nid oedd y tywydd yn ddigon da iddynt fynd allan i gynnal y picnic, ond dywedodd cyd-lynydd Lowri Roberts, “Roedd hi ‘run mor flasus yn y ‘stafell ddosbarth!”. 
Mwynhaodd Ysgol Talybont brynhawn o weithgareddau hwyliog yn ystod eu picnic Masnach Deg, a chafodd plant Comins Coch flas ar ystod o fyrbrydau iachus yn eu picnic hwy.
Mwynhaodd Ysgol Talybont bicnic Masnach Deg, lle cafodd cryn dipyn o siocled (a ffrwythau!) eu bwyta, a phrynhawn o weithgareddau miri a sbri. Chwaraeon hwy 'pasio'r oren masnach deg' a 'pa mor bell alli di daflu'r pînafal masnach deg?

Posted on 12th Jun 2007
Llongyfarchiadau i Ysgol Talybont. Fe dderbyniwch £50 i’w defnyddio ar gyfer unrhywbeth cysylltiedig â masnach deg, ag ymweliad gan ffotograffydd y Cambrian News. Cafwyd llawer o logos penigamp ac roedd y pleidleisio’n agos iawn, ond yn anffodus dim ond un enillydd a all fod! Mae’r ail le yn mynd i Ysgol Llanilar ac mae’r trydydd le yn mynd i Ysgol Rydypennau. Da iawn chi i’r holl ddisgyblion a gynrychiolodd eu hysgol yn y gystadleuaeth.
Posted on 12th Jun 2007
Mae gennyf rychwant o farrau grawnfwyd, ffrwythau wedi’u sychu a suddion i’w blasu er mwyn ystyried eu cynnwys yn stoc eich siop docyn. Gallaf hefyd drin a thrafod eu cost a phle y gallwch eu prynu.
Ymwelais yn barod â rhai ysgolion ac ‘rwyf wedi trefnu i ymweld ag eraill ynglyn â r byrbrydau iachus a’r Blasu Te a Choffi. Os yr ydych am i mi ymweld â’ch cyngor myfyrwyr chi, cysylltwch â mi os gwelwch yn dda! Wrth reswm byddaf yn hapus i ddod â’r te a’r choffi i’ch ysgol i chi drefnu’r Blasu.
Posted on 11th Jun 2007
Mae ystod o de a choffi ar gael oddi wrthyf innau am yr holl ysgolion cyfrannogol i’r staff gymryd rhan mewn blasu ’dall’ ar de a choffi er mwyn eu symbylu i newid i de a choffi masnach deg yn yr ysgol. Bydd y cynghorau ysgol yn gyfrifol am ddatblygu taflen sgorio a sylwadau fel y gall athrawon restru eu dewisiadau te a choffi a dweud a fyddent yn fodlon newid i’r te neu’r coffi penodol y maent wedi’i flasu. (Os yr ydych yn meddwl eich bod wedi datblygu taflen sgorio a sylwadau dda byddwch cystal â’i hanfon ataf trwy e-bost i’w rhoi ar y wefan a’i rhannu gydag ysgolion eraill.) Ar ôl i’ch ysgol orffen blasu, byddaf yn datgelu’r mathau o the a choffi a’u prisiau i gyd i chi. Rhowch wybod i mi trwy e-bost, os gwelwch yn dda, pan fyddwch yn barod am y manylion hyn!

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion