Mae’r stori hyfryd hon o Comic Relief, a anelir at blant iau, yn ffordd wych i gyflwyno cysyniad Masnach Deg. Mae’r llyfr yn ddarluniedig mewn ffordd ddeniadol iawn ac y mae ynddo sticeri i’w clymu wrth y silffoedd yn yr archfarchnad pan mae Charlie a Lola yn mynd yno i siopa. Ceir set o weithgareddau i fynd gyda’r llyfr y gellir eu defnyddio yn y stafell ddosbarth. Cyhoeddwyd y rhain ar-lein, hefyd.
Mae siocled a choco yn fannau cychwyn gwych i ddysgu am Fasnach Deg ac am dderbyn cyfrifoldeb am eich dewisiadau wrth siopa. Mae’r gweithrediadau yn y pecyn hwn a gynhyrchir gan Comic Relief yn dadansoddi chwe phrif ardal: beth sy’n mynd i mewn i far o siocled; lle mae e’n cael ei dyfu; (wrth ganolbwyntio ar Ghana); y drefn fasnach a manteision Masnach Deg; dewisiadau siopa yn y DU; tasgau i atgyfnerthu yr hyn mae’r myfyrwyr wedi’i ddysgu; a gweithrediadau i hybu dinasyddiaeth weithgar. Mae gyda phob gweithred gynllun gwers wedi’i strwythuro’n glir. Gellir llawrlwytho cynlluniau ac adnoddau megis taflenni gweithrediadau. Ceir astudiaethau achos ar gyfer myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd a gwybodaeth gefndirol.
Mae DVD a phecyn ffoto i gefnogi gwaith yn y stafell ddosbarth ymhellach ar gael i’w brynu ar y wefan.
Mae’r gêm gogio hwylus hon yn ffefryn mawr gyda phlant. Wrth edrych ar brofiadau ffermwyr coco o Ghana mae disgyblion yn dysgu am effeithiau masnach rhyngwladol ac am sut mae grŵp cydweithredol o ffermwyr coco yn gweithio i wella eu hamodau byw. Mae’r llyfryn yn cynnwys cyfarwyddiadau clir, a syniadau am drafodaeth a gweithrediadau i ddilyn.
Wedi’i lleoli ym Mali: gwahoddir Chaga, sy’n dod o deulu tlawd, i fynd i ystâd coco, lle mae e’n breuddwydio am fwyta llawer o siocled. Unwaith yno, mae e’n darganfod ei fod wedi’i werthu i gaethiwed.
Mae’r adnoddau sy’n mynd gyda hwn yn dod o Stop the Traffic, ac yn cynnwys cynllun gwersi, ffeiliau ffeithiau a defnyddiau ymgyrch. (PDF a Gwefan)
Y mae’r llyfr dysgu ar draws y cwricwlwm gan Reading International Solidarity Centre yn canolbwyntio ar Fasnach Deg. Mae’r llyfr yn cynnwys gweithgareddau sy’n addas i ddysgu ym mhen uchaf yr ysgol gynradd, ac yn archwilio sut y’n cysylltir ni â gweddill y byd trwy ein siopa. Mae’r llyfr yn cyflwyno disgyblion i gysyniad Masnach Deg, ac i’r syniad y dylai ffermwyr gael pris teg am eu cnydau.
E-bost: liz@risc.org.uk

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion