Rydych yma : Hafan > Gwefannau Diddorol i Athrawon > Gwersi > Eraill

Adnoddau Masnach Deg Eraill


The World in my Shopping Bag

Mae’r wers 60-munud hon gan Oxfam yn helpu disgyblion i ddeall yn well sut yr ydym yn dibynnu ar nwyddau a fewnforir. Mae’r ddwy ddalen gweithrediadau yn dangos y gwneir llawer o’r pethau ‘rydym yn eu prynu o ddefnyddiau crai sy’n cael eu mewnforio o wledydd yn Hemisffer y De.


A Long Way from Home

fai trade trading cardsMae’r ymarferiad byr hwn, gan Oxfam, yn helpu disgyblion i ddeall yn well o ble mae’r cynnyrch ‘rydym yn eu defnyddio bob dydd yn dod.


The Paper Bag Game

Mae’r gêm newydd ei diweddaru gan Gymorth Cristnogol yn gêm gogio syml a hawdd i’w chwarae sy’n tynnu sylw at amodau gwaith caled ac ansicr gwneuthurwyr bagiau papur yn yr India. Mae’r amser chwarae tua 45 munud, ar gyfer chwech neu ragor o chwaraewyr.

Chembakolli Tea Party Set       (Dolen)

Mae’r pecyn ActionAid yn cynnwys llyfryn gyda gwybodaeth gefndirol ynghylch Masnach Deg a’r rhan y mae te yn ei chwarae ym mywyd beunyddiol yr India, ynghyd â syniadau am weithrediadau (megis dadl, dawns a sioe bypedau). Byddai’r gweithrediadau’n addas i blant o oedran 7 – 10. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys lliain bwrdd a bagiau te Masnach Deg. Mae gan y pecyn rai syniadau gwreiddiol, ond byddai’n well petasai ynddo weithrediad cyflwyniadol am Fasnach Deg a dolenni fwy diamwys â’r maes llafur.

For a Few More Pesos       (Dolen)

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys fideo gydag animeiddiad 4-munud o hyd am Fasnach Deg a llyfryn addysgu sy’n mynd gydag ef. Mae’r animeiddiad yn dangos rap am Fasnach Deg ac mae’r llyfryn yn cynnwys gweithgareddau sy’n addas ar gyfer pen uchaf yr ysgol gynradd a phen is yr ysgol uwchradd. Ceir ambell weithgaredd priodol am addysgu ym meysydd Saesneg, Drama a Cherddoriaeth: er enghraifft, dadansoddi’r animeiddiad, sgrifennu creadigol, mapio’r meddwl a chyfansoddi cerddoriseth.

Mae’r pecyn yn cynnwys y llyfr a’r fideo.

We Can’t Eat Roses

Ymarferiad blaenoriaethu sy’n defnyddio’r astudiaeth achos 'Flower Growing in Kenya' i archwilio manteision Masnach Deg. Ar ôl darllen yr astudiaeth achos mae’r disgyblion yn gosod mewn trefn cywirdeb nifer o ddatganiadau am y rhesymau i brynu cynnyrch Masnach Deg. Byddai chwaneg o Fasnach Deg yn golygu y byddai cymunedau tlotaf yr Affrica yn manteisio. Cliciwch yma am fanylion llawn y gweithgaredd hwn.

When Sugar was Just a Stick

Mae’r wers 45-munud hon, a gynhyrchir gan Oxfam, yn dangos y gwahaniaethau rhwng defnyddiau crai a gynhyrchir yn y De a’r nwyddau gwneuthuriedig yr ydym ni yn y Gogedd yn eu defnyddio.