Rydych yma : Hafan > Gwefannau Diddorol i Athrawon > Gwefannau

Gwefannau diddorol i athrawon


fairtrade logo

Fairtrade Foundation

Mae gwefan y Sefydliad Masnach Deg yn ymroi i bob agwedd o Fasnach Deg gyda gwybodaeth ar nwyddau, tyfwyr, ymgyrchoedd, adnoddau ac ysgolion.


picking fair trade cotton

Traidcraft

Sefydliad masnachu amgen, wedi’i leoli yn y Deyrnas Gyfunol, a sefydlwyd ym 1970, yw Traidcraft sy’n ymroi i 'ymladd tlodi drwy fasnach'. Mae gan Traidcraft ystod o daflenni ffeithiau i helpu i egluro masnach deg a rhoi gwybodaeth am rai o’r bobl sy’n gwneud eu nwyddau.

Mae Traidcraft wedi datblygu cyfres o wasanaethau a chynlluniau gwersi y gellir eu llwytho i lawr sy’n edrych ar faterion masnach deg a thlodi o safbwynt Cristnogol.

oxfam

Oxfam

Asiantaeth ddatblygu, eiriol a chymorth yw Oxfam GB sy’n gweithio i roi terfyn ar dlodi ledled y byd. Mae ganddo wefan ddefnyddiol iawn sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol am Fasnach Deg, adnoddau Masnach Deg i athrawon a gwybodaeth am Fasnach Deg i ddisgyblion ar Cool Planet.

cafod

CAFOD

Mae’r wefan hon gan yr elusen Gatholig ryngwladol CAFOD yn rhoi gwybodaeth helaeth ar Fasnach Deg yn cynnwys adnoddau addysgol i athrawon a gwefan ardderchog i ddisgyblion.

global dimension

Global Dimensions

Mae Global Dimensions yn wefan gynhwysfawr sy’n rhoi gwybodaeth am adnoddau ar bob agwedd o ddatblygu ac addysg fyd-eang yn cynnwys adran sylweddol ar Fasnach Deg.