Mae Tropical Forest Products yn llawn gefnogi ysgolion lleol wrth iddynt ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Mudiad Masnach Deg a’u cefnogaeth iddo. ‘Rydym yn gwmni lleol sy’n darparu mêl Masnach Deg, wrth gynhyrchu ein mêl lleol ein hunain ac wrth fasnachu gyda’n partneriaid o wenynyddiaethwyr o bedwar ban byd. Mae croeso i ysgolion i drefnu ymweliadau â’n ffatri fêl ychydig tu allan i Dalybont, Aberystwyth.
I gael manylion a rhagor o wybodaeth cyswlltwch â Sarah Roberts neu ymwelwch â www.tropicalforest.com
01970 832511
Ers mis Mawrth 2004 bu aelodau Masnach Deg – Aberystwyth – Fairtrade, y grŵp Masnach Deg lleol, wrthi’n ymgyrchu am i Aberystwyth ennill a chadw statws Tref Fasnach Deg. Mae grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Penglais wedi chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch hon. Fe dderbyniwyd cymeradwyaeth y Sefydliad Masnach Deg, a datganwyd statws Masnach Deg Ddydd Gŵyl Ddewi 2005.
Mae’r Grŵp Masnach Deg wrth eu boddau gyda’r diddordeb y mae ysgolion cynradd lleol yn ei ddangos mewn Masnach Deg, ac yn rhoi cefnogaeth lawn i’w symudiad tuag at ennill statws Ysgol Fasnach Deg. Maent yn fodlon iawn i gael eu defnyddio gan athrawon a disgyblion fel adnodd ar faterion Masnach Deg.
Gellir cysylltu â Duncan Rees (Swyddog Cymuned y Co-op) i dderbyn ffurflen cais Cerdyn Disgownt Bwyd Cymunedol y Co-op, sy’n rhoi yr hawl i ddisgownt o 10% ar bethau a brynir i’ch ysgol, gan gynnwys yr holl gynnyrch Masnach Deg. 01686 640090 / 07774 268371
Mark Richardson yw cyfarwyddwr Fforwm Masnach Deg Cymru ac yn cynnig toreth o wybodaeth ynghylch Masnach Deg .
07766 015 664
Danielle Johnson yw’r ddolen-gyswllt ag Ysgolion Masnach Deg yn Fforwm Masnach Deg Cymru, a hi fydd yn ein cynorthwyo wrth inni gynnig am statws Masnach Deg. Os gwelwch y dda, sicrhewch eich bod wedi anfon e-bost at Danielle i gofrestru eich bod yn cyfrannogi yn y cynllun.
Rod Griffiths yw swyddog addysg Oxfam Cymru, ac mae ar gael i ddarparu cyngor neu wybodaeth.
I gael manylion a rhagor o wybodaeth cyswlltwch â rgriffiths@oxfam.org.uk
0870 010 9007
Eirian Samuel yw swyddog addysg Cymorth Cristnogol Cymru, ag mae hi yn hapus i gynnig cyngor.
I gael manylion a rhagor o wybodaeth cyswlltwch ag esamuel@christianaid.org
029 20844646

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion