Rydych yma : Hafan > Ardal Ysgolion > Ysgol Gymraeg

Ysgol Gymraeg


cliciwch yma i fynd i wefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Gwybodaeth am yr ysgol...

Saif yr Ysgol ar gyrion tref Aberystwyth, rhyw hanner milltir i’r dwyrain, ym Mhlascrug lle mae golygfeydd godidog. Agorwyd yr Ysgol yn 1989 ac mae rhan ohoni’n gynllun agored. O fewn y prif adeilad ceir tair uned: Uned Feithrin eang a dwy adran I blant CA2. Yn ganolog i’r cynllun mae Neuadd ac Ystafell Adnoddau a chânt eu defnyddio fel ffreutur. Lleolir plant CA1 mewn estyniad moethus. Clustnodwyd lle chwarae caled a medal i’r Meithrin a chwaraele a chae eang i weddill yr ysgol.

Pwrpas yr ysgol yw creu sefyllfaoedd a chyflenwi adnoddau a fydd yn galluogi pob plentyn i dyfu’n bersonoliaeth lawn, i ddatblygu ac ymarfer ei holl ddoniau. Bydd y sefyllfaoedd a’r adnoddau hyn yn darparu ar gyfer pob plentyn yn ôl oedran, gallu a diddordeb, ac yn eu cymhwyso i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog, yn aelodau a fydd yn gallu cyfrannu a derbyn oddi wrthi gan fyw mewn hedd a brawdgarwch gyda’i gyd-ddyn.

Golyga hyn:

  1. Alluogi pob plentyn i ddatblygu’i hun i’w lawn potensial.
  2. Sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gyflwyno i’r etifeddiaeth Gymreig.
  3. Rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu fel aelod llawn o gymdeithas sy’n prysur newid.

Masnach Deg yn yr ysgol...

Mae'r ysgol yn frwdfrydig iawn i ymuno yn y gwaith i godi ymwybyddiaeth Masnach Deg i drigolion yr ardal. Y llynedd fe drefnwyd stondinau ar gyfer arddangos a gwerthu adnoddau Masnach Deg i ddisgyblion a rhieni yr ysgol, ac mae'r gwaith wedi dechrau ar gynnal siop ffrwythau ac adnoddau Masnach Deg er mwyn i'r plant fedru prynu banana/geobar ayyb yn ystod amser chwarae'r bore er enghraifft. Rydym hefyd yn gobeithio cymryd rhan yn y 'picnic' ym mis Mehefin trwy annog y plant i ddod a chynnyrch Masnach Deg i'r ysgol. Rydym fel ysgol yn edrych ymlaen i'r her i ddylanwadu ar ddigyblio, rhieni, ffrindiau a phobl Aberystwyth yn ein hymdrech gytun i wneud Cymru y wlad Masnach Deg gyntaf. Dewch yn ol atom cyn hir i glywed sut rydym yn dod ml'an!