
Herwgipiwyd te,coffi a bisgedi'r staff am nad oeddynt yn nwyddau Masnach Deg. Bu ychydig o ddagrau (roedd lefelau caffin a siwgr yn isel!) ond arwyddodd pob aelod o staff gytundeb yn tystio y byddent o hyn allan yn yfed dim ond te a choffi Masnach Deg yn yr ystafell athrawon. Hysbyswyd yr herwgipwyr a dychwelwyd y nwyddau cyn diwedd amser chwarae!
LLONGYFARCHIADAU i Richard Jenkins a Madeleine Howard (Bl 6) ar ennill y gystadleuaeth cynllunio logo.

Ar Ddydd Gwener y 29ain o Fehefin mwynheuodd yr ysgol gyfan picnic Masnach Deg - bwytawyd llawer o siocle (a ffrwythau!). Chwaraewyd 'pasio'r oren Masnch Deg' a 'Pa mor bell gallwch chi daflu oren Masnach Deg?'!


© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion