Rydych yma : Hafan > Ardal Ysgolion > Llangynfelyn

Llangynfelyn


Cyngor Ysgol Llangynfelyn

Cynhadledd Masnach Deg

 dsc03585_2592

Y Cyngor Ysgol gyda Joan o Kenya o flaen y faner

Aeth y Cyngor Ysgol i Gynhadledd Masnach Deg yn Ysgol Penglais. Fe ddysgom ni lawer o bethau newydd am Masnach Deg.

Dysgom ni am gotwm.

Dysgom sut mae Marchnad Deg yn rhoi pris gwell i ffermwyr cotwm.

cotwm_llun_bach_400

Blasom ni fêl Masnach Deg o ffatri fêl Talybont. Roedd yn flasus iawn!

blasu_mel_bach_200

Dangosodd disgyblion Ysgol Penglais i ni o ble mae'r bwyd Masnach Deg yn dod.

Mae'r bwyd yn dod o bob man yn y byd!

map_or_byd_bach_300

Y peth gorau am y Gynhadledd Fasnach Deg oedd blasu'r bwyd!

Roeddem yn hoffi'r siocled yn enwedig! Iym, iym!

Prynwch siocled Masnach Deg, mae'n grêt!

bwyd_bach_200

Mwyheuom y Gynhadledd Fasnach Deg yn fawr iawn a dysgom ni lawer.

Rydym yn mynd i drio'n galed iawn i wneud Ysgol Llangynfelyn yn Ysgol Fasnach Deg.

Dewch nôl cyn hir i weld sut ydym yn dod ymlaen!

banana_mawr

Rydym wedi gwneud hyn:

Aelodau o'r Cyngor Ysgol yn 'dwyn' te a choffi'r athrawon!

Edrychom ni i weld pa de a choffi oedd yn yr Ystafell Athrawon.

Roedd un peth Masnach Deg yno sef siocled poeth.

Mae'r athrawon wedi addo prynu te a choffi Masnach Deg pan fydd y lleill wedi gorffen.

Diolch yn fawr iawn Mr Davies, Mrs Daniell, Mrs Nelmes, Miss Foulkes a Mrs Morgan!!!

Byddwn ni'n dod i weld cyn bo hir!!!

Dwyn Te a coffi'r athrawon

Picnic Masnach Deg

Cymerom ni rhan yn y Picnic Fawr Masnach Deg

Gwnaeth plant Blynyddoedd 3, 4, 5 and 6 gacennau creisionllyd gan ddefnyddio siocled Masnach Deg.

 coginio_cacennau_i_diane_06_250

Lisa and Kitty yn mwynhau gwneud y cacennau ar gyfer y picnic.

Buom ni'n lwcus iawn i gael cyfraniad caredig o Morrisons o'r bwyd Masnach Deg.

Diolch yn fawr iawn Morrisons!!

picnic_masnach_deg_i_diane_008_250

Cawsom sudd oren ac afal, Geobars, bananas a siocled.

Y Cyngor Ysgol; Thomas, Dylan, Rory, Lisa, Teilo a Nina gyda'r bwyd Masnach Deg i'r picnic. 

cyngor_ysgol_i_diane_013_250

Cawsom ni ein picnic o dan y coed achos roedd hi'n bwrw glaw.

Gwahoddwyd plant bach o Play Group Taliesin a Cylch Meithrin Talybont i'r bicnic.

Roedd 50 o blant ac oedolion yn y bicnic.

picnic_masnach_deg_i_diane_032_250

 Nansi, Saran, Teilo, Jayden, Morgan, Jay a Thomas yn mwynhau'r bwyd.

 picnic_masnach_deg_i_diane_034_250

 Mollie, Jac, Connor, Josh, Alfie a Mairéad yn eistedd o dan y coed yn bwyta'u bwyd.

josh_mayhew_i_diane_250_01

 Josh yn mwynhau ei Geobar yn y picnic.

Barbeciw Haf Llangynfelyn

geo_bars_bbq_200_01

Cawsom ein barbeciw blynyddol yn yr haf. Gwerthodd y Pwyllgor Masnach Deg sudd a bariau Geo a siaradon nhw gyda'r rhieni am Fansach Deg.

Gwasanaeth

Gofynwyd i'r plant ddod a phecynau a bocsys bwyd Masnach Deg i'r ysgol. Rhoddom yr holl becynau ar arddangosfa. Roeddem yn falch iawn gweld cymaint. Llwyddom i lenwi'r ardal i gyd. Da iawn bawb! 

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_013_300_01

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_014_300

Cinio Masnach Deg

6ed Mawrth 2008

Cafwyd ein cinio ysgol Masnach Deg cyntaf ar y 6ed o Fawrth. Gweithiodd Mrs Hicks a Mrs Ellis yn brysur iawn yn gwneud cinio rhost o gig Eidion Cymreig. I bwdin cawsom split banana wedi ei wneud o fananas a siocled Masnach Deg.

cinio_masnach_deg_001_400_01

Ein cogyddes- Mrs Hicks

Mwynhaodd pawb y cinio Masnach Deg a byddwn yn ysgrifennu i Gyngor Sir Cerdigion i ddiolch am y cinio ac i ofyn a allwn ni gael mwy o gynnyrch Masnach Deg i ginio.

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_011_400

Scott yn mwynhau ei split banana

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_018_400

Mae Non yn bwyta ei chinio ysgol bob dydd, iym, iym!

 pryd_bwyd_masnach_deg_2008_020_250

Diolch yn fawr Mrs Hicks!

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_016_300

 Gwledd Masnach Deg yn ystod Pythefnos Masnach Deg

Cawsom Gwledd Masnach Deg yn yr ysgol. Roedd hi hefyd yn Ddiwrnod y Llyfr. Felly gwisgodd y plant fyny fel cymeriadau o wledydd y byd. Roedd y plant eisiau coginio - felly dyna wnaethom ni! Gwnaethpwyd rhestr ac aeth Mrs Nelmes i siopa. Daeth o bwyd o bob rhan o'r byd hefyd! Ghana, Burkina Faso, De Affrica, Cuba ac Uganda. Roedd rhan fwyaf o'r bwyd yn fwyd Masnach Deg. Cymerodd yr ysgol gyfan rhan, o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6. Rhanwyd i fyny i 6 grwp a gwnaeth bob grwp rhywbeth blasus i'w fwyta. Ar y diwedd blasodd pawb y bwyd a cawsom ddiod o sudd Masnach Deg.

Cynhwysion ar gyfer cebabs ffrwythau Masnach Deg

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_021_300

Darnau mango a siocled Masnach Deg

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_022_250

Darnau pinafal a siocled Masnach Deg

 pryd_bwyd_masnach_deg_2008_023_250

Bananas Masnach Deg mewn siocled

 pryd_bwyd_masnach_deg_2008_024_250

Kitty, Isabel, Jasper, Archie, Ffion, Tobia a Nina yn brysur yn torri ffrwythau fyny

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_027_250

Llyr a Zach yn gwneud y cebabs ffrwythau

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_035_250

Ffion a llond plat o fwyd Masnach Deg

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_040_250

Cawsom Wledd Masnach Deg Wych!

pryd_bwyd_masnach_deg_2008_042_400

Rydym yn gobeithio cyrraedd ein nod o fod yn Ysgol Fasnach Deg yn fuan iawn.

Mawrth 28ain 2008

Rydym wedi cyrraedd ein nod o fod yn Ysgol Fasnach Deg

Derbyniodd y Fairtrade Foundation ein cais heddiw!!