
Bu 9 o blant o'r ysgol yn cymryd rhan mewn cyflwyniad ar Fasnach Deg yn ystod mis Mawrth 2007, pan gynhaliwyd Sioe Ffasiwn Masnach Deg.
Cynhaliwyd cynhadledd Masnach Deg i ysgolion cynradd yn Ysgol Penglais ar y 3ydd o Fai, 2007. Roedd yno lawer o weithgareddau i'w gwneud, yn amrywio o flasu cynnyrch Masnach Deg i brintio lluniau o gynnyrch Masnach Deg. Cafon ni lawer o hwyl. ![]()
Dyma grwp y merched yn y weithgaredd 'Ready Steady Cook'. Buon nhw'n paratoi pwdin o fefus ar ffyn pren gyda dip siocled Masnach Deg, a phinafal gyda tafelli o oren a merang. Blasus! 
Ar y trydydd o Fai, aeth naw ohonon ni i Ysgol Penglais ar fws oherwydd bod diwrnod Masnach Deg yno. Hoffais i'r gweithgareddau i gyd, ond fy hoff un i oedd y Ready Steady Cook oherwydd roedd e'n ddoniol, ac roedden ni'n cael blasu'r bwyd roedden ni wedi ei goginio ar y diwedd. Steffan, Blwyddyn 6.
Ar ol cyrraedd, fe gafon ni wasanaeth agoriadol gan Ysgol Rhydypennau. Roedd plant yn actio fel pobol o wledydd pell oedd yn gweithio i wneud bwyd. Roedden nhw'n dod mewn parau i siarad. Roedd un o bob par yn gwerthu ei fwyd trwy Masnach Deg. Doedd yr un arall ddim mor lwcus ac yn esbonio pam fod bywyd mor anodd. Roedden nhw'n esbonio beth oedd y gwahaniaeth rhwng bod yn rhan o Fasnach Deg, a pheidio bod yn rhan o Fasnach Deg. Un o'r gwahaniaethau oedd bod yn rhaid defnyddio cemegau peryglus os nad oeddech chi'n gwerthu eich bwyd trwy Masnach Deg. Fe fwynheais i'n fawr. Alaw, Blwyddyn 5.
Ar y 3ydd o Fai, aethon ni i Ysgol Penglais yn y bore, oherwydd bod sioe Masnach Deg yno, a gweithgareddau i ni eu gwneud. Dim ond naw ohonon ni aeth. Roedd stondin yno yn dangos mel. Roedden ni'n cael blasu'r mel, a cefais i'r mel 'Bluebell' a 'Heather'. Roedd stondin arall oedd yn gadael i ni flasu siocled, mangos sych a sudd ffrwythau Masnach Deg. Rebecca, Blwyddyn 5.
Roedd baner arbennig yn y neuadd, sef baner Masnach Deg oedd wedi bod dros y byd i gyd yn ceisio cael pobol i gefnogi Masnach Deg. Roedden nhw'n dangos lluniau o'r holl wledydd ble oedd y faner wedi bod, ac roedden ni'n gorfod dod o hyd i'r gwledydd ar fap o'r byd. Daeth dynes o Affrica i siarad efo ni am sut roedd Masnach Deg yn helpu pobol yn Affrica hefyd. Ossia, Blwyddyn 5.
Roedden ni wedi chwarae gem o'r enw 'The Persuasion Game'. Roedden ni mewn timau o ddau ac un grwp o dri. Roedden ni wedi cael pedwar darn o bapur gyda ffrindiau, teulu, siopwr ac athrawon yn siarad arnynt. Roedd yn rhaid i'r rhai oedd yn actio fel y plant geisio perswadio'r bobol pam ddylen nhw fod yn prynu pethau Masnach Deg. Un enghraifft oedd bod yn well gan un person flas coffi Nescafe, ond roedd yn rhaid i ni roi rhesymau iddyn nhw pam fod yn well cael coffi Masnach Deg. Teleri, Blwyddyn 5.
Roedd y gweithgareddau wnaethon ni yn trial cael mwy o bobol i brynu pethau Masnach Deg, i drial blasu bwyd Masnach Deg, a trial cael ffrindiau a theulu i brynu pethau Masnach Deg. Roedd Ready Steady Cook yn llawer o hwyl.Coginiodd ein tim ni mefus efo dip siocled, pinafal ac oren ar cocktail stick, a merang gyda bach o siocled wedi toddi ar ei ben. Roedd e'n flasus dros ben. Katy, Blwyddyn 5.
Pan ddechreuon ni y gweithgareddau, y peth cyntaf wnaethon ni oedd Ready Steady Cook! Roedd rhaid i ni fynd mewn dau dim. Tim 1 oedd fi, Shaun, Ruby a Steffan fel capten. Tim 2 oedd Katy, Ossia, Alaw, Rebecca a Teleri fel capten. Cafodd ein tim ni y cynhwysion anoddaf i wneud y bwyd. Coginion ni salad efo letys, tomato, pupur oren a pasta Masnach Deg, a coginion ni coleslaw a cacennau siocled, a iogwrt a mangos ffres. Rydw i'n credu mai ein tim ni ddylai fod wedi ennill! Mwynheais i'r trip yn ofnadwy.Hanna, Blwyddyn 6.
Cawsom ddiwrnod i godi arian i elusen, a bu blynyddoedd 5 a 6 yn brysur yn coginio cacenau bach siocled i bawb yn yr ysgol.

Ar brynhawn dydd Gwener, y 29ain o Fehefin, cawsom bicnic yn yr ysgol mewn ymdrech i dorri record byd am y picnic mwyaf! Masnach Deg Aberystwyth oedd yn trefnu'r digwyddiad, a daeth Mrs Jen Horgan a bananas a sudd oren i ni. Doedd y tywydd ddim yn caniatau i ni fynd allan i'r iard i gael y picnic, ond yr oedd yr un mor flasus i fewn yn y dosbarth!
Diolch i Mrs Horgan am drefnu'r picnic i ni.

Yn Ffair Haf yr ysgol, bu rhai o'r rhieni a'r arthrawon yn gwneud te a choffi Masnach Deg. Roedd yn gyfle i rieni a theuluoedd y disgyblion i flasu cynnyrch Masnach Deg, ac i geisio'u hannog i brynu te a choffi Masnach Deg adref. 
Dyma fam Katy yn paratoi te Masnach Deg i'r cwsmeriaid!
Erbyn hyn rydym wedi sefydlu pwyllgor Masnach Deg yr ysgol. Byddwn yn cwrdd unwaith bob hanner tymor i drafod syniadau a gweithgareddau ar y gweill. Yn un o'r gwersi, cafodd pawb ym mlynyddoedd 5 a 6 weithgaredd ymchwil wahanol i'w wneud, yn amrywio o ddarganfod faint o blant oedd yn dod a ffrwyth Masnach Deg i'r ysgol, i edrych am gynnyrch Masnach Deg yn yr ystafell athrawon a pharatoi 'Cytundeb Masnach Deg' iddynt.
Dyma'r aelodau a etholwyd i'r pwyllgor Masnach Deg:
Ysgrifennydd Ysgrifennydd Cadeirydd Swyddogion Ymchwil
Cymraeg Saesneg

Alaw Dafydd Emily Hopkinson Amy Waters Ruby Cains a Maddy Parkinson
Cynhaliodd Blynyddoedd 5 a 6 wasanaeth i atgoffa disgyblion iau am y manteision o ddefnyddio cynnyrch Masnach Deg yn y cartref ac yn yr ysgol. Roedden yn ceisio'u hannog i lenwi'u pecynau bwyd â bwydydd iach Masnach Deg, a dod â ffrwythau Masnach Deg i'w bwyta yn ystod amser chwarae'r prynhawn.

Fe baratodd Blynyddoedd 5 a 6 arddangosfa Masnach Deg i ddangos i deuluoedd a ffrindiau beth mae'r ysgol wedi bod yn ei wneud i gefnogi Masnach Deg. Roedd gwefan Masnach Deg yr ysgol i fyny ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol, ac yn garedig iawn, cytunodd Mrs Horgan ddod a gwahanol fathau o siocled Masnach Deg i ni gael eu blasu. Dangosodd yr arolwg mai'r siocled gwyn creisionllyd oedd y mwyaf blasus!

Bu'r Dosbarth Derbyn hefyd yn gwneud cacenau reis crisbi Masnach Deg, ac yn eu gwerthu ar y stondin gacenau. Roedd y logo Masnach Deg arnynt.
Anfonodd Emily Hopkinson o Flwyddyn 6 gerdd am siocled Masnach Deg i raglen Blue Peter, ac enillodd fathodyn Blue Peter am ei hymdrech. Llongyfarchiadau Emily! ![]()
Fairtrade Chocolate
Trefnwyd gem bel-droed gydag Ysgol Craig yr Wylfa i ddathlu dechrau Pythefnos Masnach Deg Aberystwyth. Cawsom lawer o hwyl yn chwarae pel-droed gyda'r peli Masnach Deg newydd, ac yn chwarae yn erbyn ac yn gymysg gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Craig yr Wylfa, Borth. Hoffem ddiolch o galon unwaith eto i Mrs Horgan am ei charedigrwydd, ac i ddisgyblion Craig yr Wylfa am ddod i ymuno a ni yn yr hwyl. 

Gofynodd Mrs Diane Isenberg i ni baratoi cyflwyniad ar ein gweithgareddau Masnach Deg yn yr ysgol yn y gynhadledd Masnach Deg yn Ysgol Penglais. Aeth 9 o ddisgyblion blwyddyn 6 i gymryd rhan yn y cyflwyniad. Cawsom hefyd gyfle i gwrdd a dau ddyn o Ghana, yn ogystal a blasu bwyd Masnach Deg, edrych ar gynnyrch eraill a dyfalu faint o'r arian rydyn ni'n ei roi am far o siocled sy'n mynd i'r tyfwr coco a'r siopwr. Derbyniom bel-droed Masnach Deg am gymryd rhan yn y gystadleuaeth creu poster.
Y newyddion gorau a glywon ni yn y gynhadledd oedd bod Ysgol Llanilar bellach wedi ennill statws Ysgol Masnach Deg. Llongyfarchiadau, a diolch i bawb am ein helpu. 
Daeth y Ffair Lyfrau i'r ysgol rhwng y 3ydd a'r 5ed o Fawrth, ac ar ddydd Mawrth y 4ydd o Fawrth, bu athrawon yr ysgol yn cynnig te a choffi Masnach Deg i'r rhieni tra roedden ni'n dewis ein llyfrau! Gofynodd Amy, cadeirydd pwyllgor yr ysgol, i ni flasu gwahanol siocledi a dyfalu pa un oedd yn siocled Masnach Deg.
Cafodd pob ysgol yng Ngogledd Ceredigion bwdin ffrwchnedd Masnach Deg i ddathlu Pythefnos Masnach Deg. Roedden nhw'n flasus tu hwnt. Yma, gallwch weld ni'n mwynhau'r pryd.

Daeth Martha Mazone, sy'n wreiddiol o Zimbabwe, ar ymweliad i'n hysgol. Bum yn gwrando ar straeon am fywyd cyn ac ar ol Masnach Deg yn Zimbabwe, ac yn dysgu y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yno drwy gefnogi Masnach Deg. Cawsom lawer o fwynhad hefyd yn gwrando arni'n canu am ei chariad tuag at Zimbabwe.

Ar ol ymweliad Martha, bu Mrs Eldrdge a Miss Roberts yn gwneud smwddis ffrwythau Masnach Deg gyda ni, ac yn dangos i ni pa mor hawdd yw gwneud smwddi blasus mewn munudau! 


© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion