Rydych yma : Hafan > Ardal Ysgolion > Rhydypennau

Rhydypennau


fairtradelogo80x80

Croeso i dudalen Ysgol Gynradd Rhydypennau

(www.rhydypennau.ceredigion.sch.uk)

Pam yr ydym ni, fel plant a staff Ysgol Rhydypennau wedi ymuno â chynllun Masnach Deg?

Mae yna fwy na biliwn o bobl yn byw mewn tlodi dros y byd eang, oherwydd rheolau anheg a safonau anghyson sy'n ymwneud â masnach bwyd, dillad a deunyddiau eraill.

Beth yr ydym yn ei wneud er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth y cynllun Masnach Deg?

logo_ft1_2048Mae nifer o weithgareddau'n digwydd o fewn y dosbarthiadau a thu hwnt iddynt. Yn ddiweddar bu'm yn rhan o'r her i ddylunio logo newydd i gynrychioli ysgolion gynradd Gogledd Ceredigion. Dyma'r logo buodd yn fuddugol yn ein hysgol. Beth wyt ti'n feddwl?

p5040025_480

Ar y trydydd o Fai eleni buodd Cynhadledd Masnach Deg yn Ysgol Uwchradd Penglais, Aberystwyth. Aeth ein cyngor Masnach Deg i'r cynhadledd a chynnal gwasanaeth lle buom yn actio rôl gweithwyr sydd wedi ymuno â'r cynllun Masnach Deg a sut mae eu bywydau wedi gwella. Dyma rai luniau o'r diwrnod.

Dyma Sam yn creu ffrwyth o demplet a wnaeth ei hunan.

p5040037_480

Un her a osodwyd i ni oedd dylunio bwydlen allan o'r cynhwysion a roddwyd. Roedd yn debyg iawn i'r raglen deledu Ready Steady Cook!

Dyma Guto a Rose yn ceisio creu merang gan ddefnyddio orenau a mefus! Mae'r ffedogau yn edrych yn dda arnynt!!

 p5040053_640Dyma ni o flaen baner Masnach Deg. Mae'r ferch sydd gyda ni yn y llun yn dod o Kenya, Affrica. Roedd hi'n sôn am ei bywyd hi gartref a'r gwaith da mae Masnach Deg yn ei wneud.

Rydym ni fel cyngor Masnach Deg, wedi penderfynnu prynu mwy o gynyrch Masnach Deg i werthu yn ein siop ffrwythau, sy'n rhedeg yn yr ysgol, ddwy waith yr wythnos. 100_0111_2048

Buodd Diane Isenberg, cynrychiolydd Masnach Deg yn yr ardal, mewn i'r ysgol i ddangos yr hyn sydd ar gael i ni, i'w werthu yn ein siop.

Penderfynon fel grwp i gychwyn gwerthu ffrychnedd (bananas) masnach deg yn ein siop ffrwythau, a hefyd yn y flwyddyn ysgol nesaf byddwn yn gwerthu bariau iechyd a sudd ffrwyth yn ein siop.

Geobars - 30p

Juices - 35p

Bananas - 20p

Ar y 29ain o Fehefin, buom yn rhan o ymdrech i dorri'r record am y picnic fwyaf yn y byd! Roedd yn rhaid i bob plentyn cael pecyn bwyd yn cynnwys darn o gynnyrch Masnach Deg. A fuodd yr ymdrech yn un llwyddiannus? Cadwch golwg ar y wefan i weld!

!100_0367_200 100_0356_200 100_0361_200

 

webcam_with_ghana_fairtraders_448_01
Dyma rai o blant blwyddyn 6 yn siarad a phlant o Ghana yn ddiweddar ar

gamera-we yr ysgol. Mae eu rhieni yn gweithio ar fferm Coco sy'n gwerthu ei chynnyrch iw roi mewn

bwydydd Masnach Deg.  Kuapa Kokoo yw enw'r cwmni neu gymdeithas cydweithredol a chafwyd ei ffurfio yn Ghana ym 1993. Mae 45,000 o dyfwyr Coco yn ran o'r gymdeithas yma - y fwyaf yn Ghana. 

Mae'r coco yma yn cael ei ddefnyddio i wneud Divine Chocolate.

 

 

martha_zimbabwewebarod_448

Yn ddiweddar fe ddaeth ymwelydd o Zimbabwe i'n

gweld yn yr Ysgol. Martha Mazone oedd ei henw hi, a roedd ganddi neges o betrefwyr o Zimbabwe sy'n rhan o gynllun Masnach Deg.

Roedd hi'n ein annog ni i gadw ymlaen a'n cynorthwyo o'r pobl yma sy'n ennill o fod yn rhan o'r rhaglen Fasnach Deg.

Yn y llun gyda Martha, y welwch ein cyd-                                                                                                                                     lynyddion frwdfrydig - Mrs Helen Jones a Mr Euryl Rees.